Recordiau, Cyhoeddi, Rheoli, Hyrwyddo
Mae Clwb Music yn grŵp annibynnol sy’n cynnwys tîm rheoli artistiaid, label recordiau a chwmni cyhoeddi. Sefydlwyd y cwmni newydd gan y tîm tu ôl i Clwb Ifor Bach er mwyn ehangu’r gwaith mae’r sefydliad yn ei wneud yn barod wrth edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi datblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae tîm rheoli artistiaid Clwb Music eisoes wedi arwyddo dau o fandiau mwyaf cyffroes Cymru – Buzzard Buzzard Buzzard a Panic Shack, yn o gystal a’r artist newydd Alice Low.
Hefyd, bydd y label recordio yn cydweithio’n agos ag artistiaid tra bod ochr cyhoeddi’r cwmni yn chwilio am gyfleoedd newydd fel bod cerddoriaeth Gymreig yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.