Mae Clwb Ifor Bach wedi lansio menter newydd i gynorthwyo artistiaid a'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Clwb Ifor Bach yn lansio menter newydd i gynorthwyo artistiaid a'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Yn angerddol am gydweithio'n agos gydag artistiaid rydyn ni'n eu caru.
Mae Clwb Ifor Bach wedi lansio menter newydd i gynorthwyo artistiaid a'r diwydiant cerddoriaeth yn ehangach yng Nghymru.
Mae Clwb Music yn grŵp annibynnol sy’n cynnwys tîm rheoli artistiaid, label recordiau a chwmni cyhoeddi. Sefydlwyd y cwmni newydd gan y tîm tu ôl i Clwb Ifor Bach er mwyn ehangu’r gwaith mae’r sefydliad yn ei wneud yn barod wrth edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi datblygiad y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
“Dros y 38 mlynedd diwethaf, mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn ganolbwynt i’r sîn gerddoriaeth fyw yng Nghymru,” meddai’r Prif Weithredwr, Guto Brychan. “Rydyn ni wedi bod yn hanfodol i artistiaid yn gynnar yn eu gyrfa wrth gynnig cyfleoedd allweddol a chyfle iddyn nhw hogi eu crefft.
“Ond rydyn ni wastad wedi bod eisiau ehangu ein cylch gwaith ac yn y misoedd cyn i’r pandemig daro, roedden ni wedi cymryd y camau cyntaf i sefydlu tîm rheoli artistiaid. Ar ôl i'r cyfnod clo cyntaf ddechrau, ac wedi i’n gweithgaredd craidd ni ddod i stop, fe benderfynon ni edrych ar ba opsiynau eraill oedd yn ar gael i ni.”
Mae tîm rheoli artistiaid Clwb Music eisoes wedi arwyddo dau o fandiau mwyaf cyffroes Cymru – Buzzard Buzzard Buzzard a Panic Shack - gyda mwy yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
Hefyd, bydd y label recordio yn cydweithio’n agos ag artistiaid tra bod ochr cyhoeddi’r cwmni yn chwilio am gyfleoedd newydd fel bod cerddoriaeth Gymreig yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
“Mae helpu a datblygu artistiaid o Gymru wedi bod yn greiddiol i ethos Clwb Ifor Bach ers y dechrau,” esboniodd Guto. “Ac ers 2015 rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo mwy a mwy o ddigwyddiadau tu mewn a thu allan i waliau
Clwb gyda’r nod o ddarparu sylfaen gref fel bod artistiaid newydd yn gallu ffynnu a datblygu.
“Mae Clwb Music yn gam naturiol i ddatblygu’r ethos yma’n bellach wrth i ni gymryd rôl fwy gweithredol yng ngyrfaoedd artistiaid, hyrwyddo’r sîn gyfoethog sydd gennym yma yng Nghymru, a gweithio i ddod â cherddoriaeth Gymraeg i’r llwyfan rhyngwladol.”
Er mwyn clywed y newyddion diweddaraf, dilyna Clwb Music ar:
www.facebook.com/clwbmusic
www.twitter.com/clwbmusic
www.instagram.com/clwbmusic
www.clwbmusic.cymru
Diwedd