Fe rhyddhaodd y band rock'n'roll Pigeon Wigs eu sengl gyntaf Near The Knuckle yn 2021 a does dim sôn o arafu lawr!

Biography

Band rock'n'roll 6 darn yw Pigeon Wigs sydd newydd ddeillio o bridd ffrwythlon Caerdydd. Wedi'u ffurfio o bartneriaeth ysgrifennu Harry Franklin-Williams a Louis Jugessur, mae eu cerddoriaeth yn amrywio o fod yn ganeuon dros-ben-llestri i rhai bregus, gan ymroi i ba bynnag genre sy'n gweddu orau gyda llinyn yn plethu trwy bopeth sydd dim ond yn gallu cael ei ddisgrifio fel sŵn Pigeon Wigs.

Near The Knuckle yw sengl gyntaf rambunctious Pigeon Wigs, llawn riffs, lleisiau hyfryd ynghyd â drymiau enfawr a chorws sy'n gwahodd chi i ganu gyda nhw. Mae'r gân yn profi bod roc n 'roll yn wirioneddol fyw. Fe ddisgrifiodd Adam Walton ar BBC Radio Wales fel "something sexual and also primal". Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i'r band, ar ôl recordio gwerth albwm o ganeuon a mwy eisoes, mae'n amlwg nad oes stopio Pigeon Wigs wrth iddyn nhw barhau i frasgamu yn bwerus ar eu ffordd i'r brig.

Releases

  • The Way You Do

    Pigeon Wigs

  • Near The Knuckle

    Pigeon Wigs

  • Death Of A King

    Pigeon Wigs

Artist News